1. A phan welodd yr Iesu y tyrfaoedd, efe a esgynnodd i'r mynydd: ac wedi iddo eistedd, ei ddisgyblion a ddaethant ato.
2. Ac efe a agorodd ei enau, ac a'u dysgodd hwynt, gan ddywedyd,
3. Gwyn eu byd y tlodion yn yr ysbryd: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd.
4. Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru: canys hwy a ddiddenir.
5. Gwyn eu byd y rhai addfwyn: canys hwy a etifeddant y ddaear.
6. Gwyn eu byd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder: canys hwy a ddiwellir.
7. Gwyn eu byd y rhai trugarogion: canys hwy a gânt drugaredd.
8. Gwyn eu byd y rhai pur o galon: canys hwy a welant Dduw.
9. Gwyn eu byd y tangnefeddwyr: canys hwy a elwir yn blant i Dduw.
10. Gwyn eu byd y rhai a erlidir o achos cyfiawnder: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd.