Mathew 28:18-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. A'r Iesu a ddaeth, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear.

19. Ewch gan hynny a dysgwch yr holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw'r Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glân;

20. Gan ddysgu iddynt gadw pob peth a'r a orchmynnais i chwi. Ac wele, yr ydwyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd. Amen.

Mathew 28