Mathew 27:47-56 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

47. A rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedasant, Y mae hwn yn galw am Eleias.

48. Ac yn y fan un ohonynt a redodd, ac a gymerth ysbwng, ac a'i llanwodd o finegr, ac a'i rhoddodd ar gorsen, ac a'i diododd ef.

49. A'r lleill a ddywedasant, Paid, edrychwn a ddaw Eleias i'w waredu ef.

50. A'r Iesu, wedi llefain drachefn â llef uchel, a ymadawodd â'r ysbryd.

51. Ac wele, llen y deml a rwygwyd yn ddau oddi fyny hyd i waered: a'r ddaear a grynodd, a'r meini a holltwyd:

52. A'r beddau a agorwyd; a llawer o gyrff y saint a hunasent a gyfodasant,

53. Ac a ddaethant allan o'r beddau ar ôl ei gyfodiad ef, ac a aethant i mewn i'r ddinas sanctaidd, ac a ymddangosasant i lawer.

54. Ond y canwriad, a'r rhai oedd gydag ef yn gwylied yr Iesu, wedi gweled y ddaeargryn, a'r pethau a wnaethid, a ofnasant yn fawr, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw ydoedd hwn.

55. Ac yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hirbell, y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilea, gan weini iddo ef:

56. Ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago a Joses, a mam meibion Sebedeus.

Mathew 27