Mathew 27:45-54 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

45. Ac o'r chweched awr y bu tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr.

46. Ac ynghylch y nawfed awr y llefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eli, Eli, lama sabachthani? hynny yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm gadewaist?

47. A rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedasant, Y mae hwn yn galw am Eleias.

48. Ac yn y fan un ohonynt a redodd, ac a gymerth ysbwng, ac a'i llanwodd o finegr, ac a'i rhoddodd ar gorsen, ac a'i diododd ef.

49. A'r lleill a ddywedasant, Paid, edrychwn a ddaw Eleias i'w waredu ef.

50. A'r Iesu, wedi llefain drachefn â llef uchel, a ymadawodd â'r ysbryd.

51. Ac wele, llen y deml a rwygwyd yn ddau oddi fyny hyd i waered: a'r ddaear a grynodd, a'r meini a holltwyd:

52. A'r beddau a agorwyd; a llawer o gyrff y saint a hunasent a gyfodasant,

53. Ac a ddaethant allan o'r beddau ar ôl ei gyfodiad ef, ac a aethant i mewn i'r ddinas sanctaidd, ac a ymddangosasant i lawer.

54. Ond y canwriad, a'r rhai oedd gydag ef yn gwylied yr Iesu, wedi gweled y ddaeargryn, a'r pethau a wnaethid, a ofnasant yn fawr, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw ydoedd hwn.

Mathew 27