Mathew 27:41-47 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

41. A'r un modd yr archoffeiriaid hefyd, gan watwar, gyda'r ysgrifenyddion a'r henuriaid, a ddywedasant,

42. Efe a waredodd eraill, ei hunan nis gall efe ei waredu. Os Brenin Israel yw, disgynned yr awron oddi ar y groes, ac ni a gredwn iddo.

43. Ymddiriedodd yn Nuw; gwareded efe ef yr awron, os efe a'i myn ef: canys efe a ddywedodd, Mab Duw ydwyf.

44. A'r un peth hefyd a edliwiodd y lladron iddo, y rhai a groeshoeliasid gydag ef.

45. Ac o'r chweched awr y bu tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr.

46. Ac ynghylch y nawfed awr y llefodd yr Iesu รข llef uchel, gan ddywedyd, Eli, Eli, lama sabachthani? hynny yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm gadewaist?

47. A rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedasant, Y mae hwn yn galw am Eleias.

Mathew 27