Mathew 27:3-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Yna pan welodd Jwdas, yr hwn a'i bradychodd ef, ddarfod ei gondemnio ef, bu edifar ganddo, ac a ddug drachefn y deg ar hugain arian i'r archoffeiriaid a'r henuriaid,

4. Gan ddywedyd, Pechais, gan fradychu gwaed gwirion. Hwythau a ddywedasant, Pa beth yw hynny i ni? edrych di.

5. Ac wedi iddo daflu'r arian yn y deml, efe a ymadawodd, ac a aeth ac a ymgrogodd.

6. A'r archoffeiriaid a gymerasant yr arian, ac a ddywedasant, Nid cyfreithlon i ni eu bwrw hwynt yn y drysorfa; canys gwerth gwaed ydyw.

7. Ac wedi iddynt gydymgynghori, hwy a brynasant รข hwynt faes y crochenydd, yn gladdfa dieithriaid.

8. Am hynny y galwyd y maes hwnnw, Maes y gwaed, hyd heddiw.

9. (Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd trwy Jeremeias y proffwyd, gan ddywedyd, A hwy a gymerasant y deg ar hugain arian, pris y prisiedig, yr hwn a brynasant gan feibion Israel;

Mathew 27