Mathew 27:21-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. A'r rhaglaw a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa un o'r ddau a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Hwythau a ddywedasant, Barabbas.

22. Peilat a ddywedodd wrthynt, Pa beth gan hynny a wnaf i'r Iesu, yr hwn a elwir Crist? Hwythau oll a ddywedasant wrtho, Croeshoelier ef.

23. A'r rhaglaw a ddywedodd, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? Hwythau a lefasant yn fwy, gan ddywedyd, Croeshoelier ef.

24. A Peilat, pan welodd nad oedd dim yn tycio, ond yn hytrach bod cynnwrf, a gymerth ddwfr, ac a olchodd ei ddwylo gerbron y bobl, gan ddywedyd, Dieuog ydwyf fi oddi wrth waed y cyfiawn hwn: edrychwch chwi.

25. A'r holl bobl a atebodd ac a ddywedodd, Bydded ei waed ef arnom ni, ac ar ein plant.

26. Yna y gollyngodd efe Barabbas yn rhydd iddynt: ond yr Iesu a fflangellodd efe, ac a'i rhoddes i'w groeshoelio.

27. Yna milwyr y rhaglaw a gymerasant yr Iesu i'r dadleudy, ac a gynullasant ato yr holl fyddin.

28. A hwy a'i diosgasant ef, ac a roesant amdano fantell o ysgarlad.

29. A chwedi iddynt blethu coron o ddrain, hwy a'i gosodasant ar ei ben ef, a chorsen yn ei law ddeau; ac a blygasant eu gliniau ger ei fron ef, ac a'i gwatwarasant, gan ddywedyd, Henffych well, brenin yr Iddewon.

30. A hwy a boerasant arno, ac a gymerasant y gorsen, ac a'i trawsant ar ei ben.

31. Ac wedi iddynt ei watwar, hwy a'i diosgasant ef o'r fantell, ac a'i gwisgasant รข'i ddillad ei hun, ac a'i dygasant ef ymaith i'w groeshoelio.

Mathew 27