48. A'r hwn a'i bradychodd ef a roesai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pa un bynnag a gusanwyf, hwnnw yw efe: deliwch ef.
49. Ac yn ebrwydd y daeth at yr Iesu, ac a ddywedodd, Henffych well, Athro; ac a'i cusanodd ef.
50. A'r Iesu a ddywedodd wrtho. Y cyfaill, i ba beth y daethost? Yna y daethant, ac y rhoesant ddwylo ar yr Iesu, ac a'i daliasant ef.
51. Ac wele, un o'r rhai oedd gyda'r Iesu, a estynnodd ei law, ac a dynnodd ei gleddyf, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ei glust ef.
52. Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, Dychwel dy gleddyf i'w le: canys pawb a'r a gymerant gleddyf, a ddifethir รข chleddyf.
53. A ydwyt ti yn tybied nas gallaf yr awr hon ddeisyf ar fy Nhad, ac efe a rydd yn y fan i mi fwy na deuddeg lleng o angylion?
54. Pa fodd ynteu y cyflawnid yr ysgrythurau, mai felly y gorfydd bod?