Mathew 26:4-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. A hwy a gydymgyngorasant fel y dalient yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent ef.

5. Eithr hwy a ddywedasant, Nid ar yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl.

6. Ac a'r Iesu ym Methania, yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus,

7. Daeth ato wraig a chanddi flwch o ennaint gwerthfawr, ac a'i tywalltodd ar ei ben, ac efe yn eistedd wrth y ford.

8. A phan welodd ei ddisgyblion, hwy a sorasant, gan ddywedyd, I ba beth y bu'r golled hon?

Mathew 26