29. Canys i bob un y mae ganddo y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd; ac oddi ar yr hwn nid oes ganddo y dygir oddi arno, ie, yr hyn sydd ganddo.
30. A bwriwch allan y gwas anfuddiol i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.
31. A Mab y dyn, pan ddĂȘl yn ei ogoniant, a'r holl angylion sanctaidd gydag ef, yna yr eistedd ar orseddfainc ei ogoniant.
32. A chydgesglir ger ei fron ef yr holl genhedloedd: ac efe a'u didola hwynt oddi wrth ei gilydd, megis y didola'r bugail y defaid oddi wrth y geifr:
33. Ac a esyd y defaid ar ei ddeheulaw, ond y geifr ar yr aswy.