Mathew 25:25-37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

25. A mi a ofnais, ac a euthum, ac a guddiais dy dalent yn y ddaear: wele, yr wyt yn cael yr eiddot dy hun.

26. A'i arglwydd a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O was drwg a diog, ti a wyddit fy mod yn medi lle nis heuais, ac yn casglu lle nis gwasgerais:

27. Am hynny y dylesit ti roddi fy arian at y cyfnewidwyr; a mi, pan ddaethwn, a gawswn dderbyn yr eiddof fy hun gyda llog.

28. Cymerwch gan hynny y dalent oddi wrtho, a rhoddwch i'r hwn sydd ganddo ddeg talent.

29. Canys i bob un y mae ganddo y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd; ac oddi ar yr hwn nid oes ganddo y dygir oddi arno, ie, yr hyn sydd ganddo.

30. A bwriwch allan y gwas anfuddiol i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.

31. A Mab y dyn, pan ddêl yn ei ogoniant, a'r holl angylion sanctaidd gydag ef, yna yr eistedd ar orseddfainc ei ogoniant.

32. A chydgesglir ger ei fron ef yr holl genhedloedd: ac efe a'u didola hwynt oddi wrth ei gilydd, megis y didola'r bugail y defaid oddi wrth y geifr:

33. Ac a esyd y defaid ar ei ddeheulaw, ond y geifr ar yr aswy.

34. Yna y dywed y Brenin wrth y rhai ar ei ddeheulaw, Deuwch, chwi fendigedigion fy Nhad, etifeddwch y deyrnas a baratowyd i chwi er seiliad y byd.

35. Canys bûm newynog, a chwi a roesoch imi fwyd: bu arnaf syched, a rhoesoch imi ddiod: bûm ddieithr, a dygasoch fi gyda chwi:

36. Noeth, a dilladasoch fi: bûm glaf, ac ymwelsoch â mi: bûm yng ngharchar, a daethoch ataf.

37. Yna yr etyb y rhai cyfiawn iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y'th welsom yn newynog, ac y'th borthasom? neu yn sychedig, ac y rhoesom iti ddiod?

Mathew 25