Mathew 25:13-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Gwyliwch gan hynny; am na wyddoch na'r dydd na'r awr y daw Mab y dyn.

14. Canys y mae teyrnas nefoedd fel dyn yn myned i wlad ddieithr, yr hwn a alwodd ei weision, ac a roddes ei dda atynt.

15. Ac i un y rhoddodd efe bum talent, ac i arall ddwy, ac i arall un, i bob un yn ôl ei allu ei hun; ac yn y fan efe a aeth oddi cartref.

16. A'r hwn a dderbyniasai'r pum talent a aeth, ac a farchnataodd â hwynt, ac a wnaeth bum talent eraill.

17. A'r un modd yr hwn a dderbyniasai'r ddwy, a enillodd yntau ddwy eraill.

18. Ond yr hwn a dderbyniasai un, a aeth, ac a gloddiodd yn y ddaear, ac a guddiodd arian ei arglwydd.

19. Ac wedi llawer o amser, y mae arglwydd y gweision hynny yn dyfod, ac yn cyfrif â hwynt.

Mathew 25