Mathew 24:46-50 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

46. Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddelo, yn gwneuthur felly.

47. Yn wir meddaf i chwi, Ar ei holl dda y gesyd efe ef.

48. Ond os dywed y gwas drwg hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod;

49. A dechrau curo ei gyd‐weision, a bwyta ac yfed gyda'r meddwon;

50. Arglwydd y gwas hwnnw a ddaw yn y dydd nid yw efe yn disgwyl amdano, ac mewn awr nis gŵyr efe;

Mathew 24