3. Ac efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, y disgyblion a ddaethant ato o'r neilltu, gan ddywedyd, Mynega i ni, pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd o'th ddyfodiad, ac o ddiwedd y byd?
4. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Edrychwch rhag i neb eich twyllo chwi.
5. Canys daw llawer yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer.
6. A chwi a gewch glywed am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd: gwelwch na chyffroer chwi: canys rhaid yw bod hyn oll; eithr nid yw'r diwedd eto.
7. Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: ac fe fydd newyn, a nodau, a daeargrynfâu mewn mannau.
8. A dechreuad gofidiau yw hyn oll.
9. Yna y'ch traddodant chwi i'ch gorthrymu, ac a'ch lladdant: a chwi a gaseir gan yr holl genhedloedd er mwyn fy enw i.
10. Ac yna y rhwystrir llawer, ac y bradychant ei gilydd, ac y casânt ei gilydd.
11. A gau broffwydi lawer a godant, ac a dwyllant lawer.
12. Ac oherwydd yr amlha anwiredd, fe a oera cariad llawer.
13. Eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig.
14. A'r efengyl hon am y deyrnas a bregethir trwy'r holl fyd, er tystiolaeth i'r holl genhedloedd: ac yna y daw'r diwedd.
15. Am hynny pan weloch y ffieidd‐dra anghyfanheddol, a ddywedwyd trwy Daniel y proffwyd, yn sefyll yn y lle sanctaidd, (y neb a ddarlleno, ystyried;)
16. Yna y rhai a fyddant yn Jwdea, ffoant i'r mynyddoedd.
17. Y neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgynned i gymryd dim allan o'i dŷ:
18. A'r hwn a fyddo yn y maes, na ddychweled yn ei ôl i gymryd ei ddillad.