Mathew 22:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r Iesu a atebodd, ac a lefarodd wrthynt drachefn mewn damhegion, gan ddywedyd,

2. Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ryw frenin a wnaeth briodas i'w fab,

3. Ac a ddanfonodd ei weision i alw y rhai a wahoddasid i'r briodas: ac ni fynnent hwy ddyfod.

4. Trachefn, efe a anfonodd weision eraill, gan ddywedyd, Dywedwch wrth y rhai a wahoddwyd, Wele, paratoais fy nghinio: fy ychen a'm pasgedigion a laddwyd, a phob peth sydd barod: deuwch i'r briodas.

Mathew 22