34. A phan nesaodd amser ffrwythau, efe a ddanfonodd ei weision at y llafurwyr, i dderbyn ei ffrwythau hi.
35. A'r llafurwyr a ddaliasant ei weision ef, ac un a gurasant, ac arall a laddasant, ac arall a labyddiasant.
36. Trachefn, efe a anfonodd weision eraill, fwy na'r rhai cyntaf: a hwy a wnaethant iddynt yr un modd.
37. Ac yn ddiwethaf oll, efe a anfonodd atynt ei fab ei hun, gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab i.
38. A phan welodd y llafurwyr y mab, hwy a ddywedasant yn eu plith eu hun, Hwn yw'r etifedd; deuwch, lladdwn ef, a daliwn ei etifeddiaeth ef.
39. Ac wedi iddynt ei ddal, hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan, ac a'i lladdasant.
40. Am hynny pan ddĂȘl arglwydd y winllan, pa beth a wna efe i'r llafurwyr hynny?
41. Hwy a ddywedasant wrtho, Efe a ddifetha yn llwyr y dynion drwg hynny, ac a esyd y winllan i lafurwyr eraill, y rhai a dalant iddo'r ffrwythau yn eu hamserau.