Mathew 21:1-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Aphan ddaethant yn gyfagos i Jerwsalem, a'u dyfod hwy i Bethffage, i fynydd yr Olewydd, yna yr anfonodd yr Iesu ddau ddisgybl,

2. Gan ddywedyd wrthynt, Ewch i'r pentref sydd ar eich cyfer, ac yn y man chwi a gewch asen yn rhwym, ac ebol gyda hi: gollyngwch hwynt, a dygwch ataf fi.

3. Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch, Y mae'n rhaid i'r Arglwydd wrthynt: ac yn y man efe a'u denfyn hwynt.

4. A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy'r proffwyd, yn dywedyd,

5. Dywedwch i ferch Seion, Wele, dy frenin yn dyfod i ti, yn addfwyn, ac yn eistedd ar asen, ac ebol llwdn asen arferol รข'r iau.

6. Y disgyblion a aethant, ac a wnaethant fel y gorchmynasai'r Iesu iddynt.

7. A hwy a ddygasant yr asen a'r ebol, ac a ddodasant eu dillad arnynt, ac a'i gosodasant ef i eistedd ar hynny.

Mathew 21