Mathew 20:9-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. A phan ddaeth y rhai a gyflogasid ynghylch yr unfed awr ar ddeg, hwy a gawsant bob un geiniog.

10. A phan ddaeth y rhai cyntaf, hwy a dybiasant y caent fwy; a hwythau a gawsant bob un geiniog.

11. Ac wedi iddynt gael, grwgnach a wnaethant yn erbyn gŵr y tŷ,

12. Gan ddywedyd, Un awr y gweithiodd y rhai olaf hyn, a thi a'u gwnaethost hwynt yn gystal â ninnau, y rhai a ddygasom bwys y dydd, a'r gwres.

13. Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrth un ohonynt, Y cyfaill, nid ydwyf yn gwneuthur cam â thi: onid er ceiniog y cytunaist â mi?

14. Cymer yr hyn sydd eiddot, a dos ymaith: yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi i'r olaf hwn megis i tithau.

15. Onid cyfreithlon i mi wneuthur a fynnwyf â'r eiddof fy hun? neu a ydyw dy lygad di yn ddrwg, am fy mod i yn dda?

16. Felly y rhai olaf fyddant yn flaenaf, a'r rhai blaenaf yn olaf: canys llawer sydd wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.

17. Ac a'r Iesu yn myned i fyny i Jerwsalem, efe a gymerth y deuddeg disgybl o'r neilltu ar y ffordd, ac a ddywedodd wrthynt,

18. Wele, yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem; a Mab y dyn a draddodir i'r archoffeiriaid a'r ysgrifenyddion, a hwy a'i condemniant ef i farwolaeth,

19. Ac a'i traddodant ef i'r Cenhedloedd, i'w watwar, ac i'w fflangellu, ac i'w groeshoelio: a'r trydydd dydd efe a atgyfyd.

Mathew 20