14. Cymer yr hyn sydd eiddot, a dos ymaith: yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi i'r olaf hwn megis i tithau.
15. Onid cyfreithlon i mi wneuthur a fynnwyf â'r eiddof fy hun? neu a ydyw dy lygad di yn ddrwg, am fy mod i yn dda?
16. Felly y rhai olaf fyddant yn flaenaf, a'r rhai blaenaf yn olaf: canys llawer sydd wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.
17. Ac a'r Iesu yn myned i fyny i Jerwsalem, efe a gymerth y deuddeg disgybl o'r neilltu ar y ffordd, ac a ddywedodd wrthynt,
18. Wele, yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem; a Mab y dyn a draddodir i'r archoffeiriaid a'r ysgrifenyddion, a hwy a'i condemniant ef i farwolaeth,
19. Ac a'i traddodant ef i'r Cenhedloedd, i'w watwar, ac i'w fflangellu, ac i'w groeshoelio: a'r trydydd dydd efe a atgyfyd.
20. Yna y daeth mam meibion Sebedeus ato gyda'i meibion, gan addoli, a deisyf rhyw beth ganddo.
21. Ac efe a ddywedodd wrthi, Pa beth a fynni? Dywedodd hithau wrtho, Dywed am gael o'm dau fab hyn eistedd, y naill ar dy law ddeau, a'r llall ar dy law aswy, yn dy frenhiniaeth.
22. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Ni wyddoch chwi beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed o'r cwpan yr ydwyf fi ar yfed ohono, a'ch bedyddio â'r bedydd y bedyddir fi? Dywedasant wrtho, Gallwn.