14. Cymer yr hyn sydd eiddot, a dos ymaith: yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi i'r olaf hwn megis i tithau.
15. Onid cyfreithlon i mi wneuthur a fynnwyf รข'r eiddof fy hun? neu a ydyw dy lygad di yn ddrwg, am fy mod i yn dda?
16. Felly y rhai olaf fyddant yn flaenaf, a'r rhai blaenaf yn olaf: canys llawer sydd wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.
17. Ac a'r Iesu yn myned i fyny i Jerwsalem, efe a gymerth y deuddeg disgybl o'r neilltu ar y ffordd, ac a ddywedodd wrthynt,