Mathew 20:1-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Canys teyrnas nefoedd sydd debyg i ŵr o berchen tŷ, yr hwn a aeth allan a hi yn dyddhau, i gyflogi gweithwyr i'w winllan.

2. Ac wedi cytuno â'r gweithwyr er ceiniog y dydd, efe a'u hanfonodd hwy i'w winllan.

3. Ac efe a aeth allan ynghylch y drydedd awr, ac a welodd eraill yn sefyll yn segur yn y farchnadfa;

4. Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch chwithau i'r winllan; a pha beth bynnag a fyddo cyfiawn, mi a'i rhoddaf i chwi.

5. A hwy a aethant ymaith. Ac efe a aeth allan drachefn ynghylch y chweched a'r nawfed awr, ac a wnaeth yr un modd.

6. Ac efe a aeth allan ynghylch yr unfed awr ar ddeg, ac a gafodd eraill yn sefyll yn segur, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y sefwch chwi yma ar hyd y dydd yn segur?

7. Dywedasant wrtho, Am na chyflogodd neb nyni. Dywedodd yntau wrthynt, Ewch chwithau i'r winllan; a pha beth bynnag fyddo cyfiawn, chwi a'i cewch.

8. A phan aeth hi yn hwyr, arglwydd y winllan a ddywedodd wrth ei oruchwyliwr, Galw'r gweithwyr, a dyro iddynt eu cyflog, gan ddechrau o'r rhai diwethaf hyd y rhai cyntaf.

9. A phan ddaeth y rhai a gyflogasid ynghylch yr unfed awr ar ddeg, hwy a gawsant bob un geiniog.

10. A phan ddaeth y rhai cyntaf, hwy a dybiasant y caent fwy; a hwythau a gawsant bob un geiniog.

11. Ac wedi iddynt gael, grwgnach a wnaethant yn erbyn gŵr y tŷ,

12. Gan ddywedyd, Un awr y gweithiodd y rhai olaf hyn, a thi a'u gwnaethost hwynt yn gystal â ninnau, y rhai a ddygasom bwys y dydd, a'r gwres.

Mathew 20