Mathew 2:21-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. Ac wedi ei gyfodi, efe a gymerth y mab bychan a'i fam, ac a ddaeth i dir Israel.

22. Eithr pan glybu efe fod Archelaus yn teyrnasu ar Jwdea yn lle ei dad Herod, efe a ofnodd fyned yno. Ac wedi ei rybuddio gan Dduw mewn breuddwyd, efe a giliodd i barthau Galilea.

23. A phan ddaeth, efe a drigodd mewn dinas a elwid Nasareth: fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy'r proffwydi, Y gelwid ef yn Nasaread.

Mathew 2