1. Ac wedi geni'r Iesu ym Methlehem Jwdea, yn nyddiau Herod frenin, wele, doethion a ddaethant o'r dwyrain i Jerwsalem,
2. Gan ddywedyd, Pa le y mae'r hwn a anwyd yn Frenin yr Iddewon? canys gwelsom ei seren ef yn y dwyrain, a daethom i'w addoli ef.
3. Ond pan glybu Herod frenin, efe a gyffrowyd, a holl Jerwsalem gydag ef.
4. A chwedi dwyn ynghyd yr holl archoffeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, efe a ymofynnodd รข hwynt pa le y genid Crist.