1. A bu, pan orffennodd yr Iesu yr ymadroddion hyn, efe a ymadawodd o Galilea, ac a ddaeth i derfynau Jwdea, tu hwnt i'r Iorddonen:
2. A thorfeydd lawer a'i canlynasant ef; ac efe a'u hiachaodd hwynt yno.
3. A daeth y Phariseaid ato, gan ei demtio, a dywedyd wrtho, Ai cyfreithlon i ŵr ysgar â'i wraig am bob achos?