Mathew 18:23-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Am hynny y cyffelybir teyrnas nefoedd i ryw frenin a fynnai gael cyfrif gan ei weision.

24. A phan ddechreuodd gyfrif, fe a ddygwyd ato un a oedd yn ei ddyled ef o ddeng mil o dalentau.

25. A chan nad oedd ganddo ddim i dalu, gorchmynnodd ei arglwydd ei werthu ef, a'i wraig, a'i blant, a chwbl a'r a feddai, a thalu'r ddyled.

26. A'r gwas a syrthiodd i lawr, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti'r cwbl oll.

27. Ac arglwydd y gwas hwnnw a dosturiodd wrtho, ac a'i gollyngodd, ac a faddeuodd iddo'r ddyled.

28. Ac wedi myned o'r gwas hwnnw allan, efe a gafodd un o'i gyd‐weision, yr hwn oedd yn ei ddyled ef o gan ceiniog: ac efe a ymaflodd ynddo, ac a'i llindagodd, gan ddywedyd, Tâl i mi yr hyn sydd ddyledus arnat.

29. Yna y syrthiodd ei gyd‐was wrth ei draed ef, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti'r cwbl oll.

30. Ac nis gwnâi efe; ond myned a'i fwrw ef yng ngharchar, hyd oni thalai yr hyn oedd ddyledus.

31. A phan welodd ei gyd‐weision y pethau a wnaethid, bu ddrwg dros ben ganddynt: a hwy a ddaethant, ac a fynegasant i'w harglwydd yr holl bethau a fuasai.

32. Yna ei arglwydd, wedi ei alw ef ato, a ddywedodd wrtho, Ha was drwg, maddeuais i ti yr holl ddyled honno, am iti ymbil â mi:

33. Ac oni ddylesit tithau drugarhau wrth dy gyd‐was, megis y trugarheais innau wrthyt ti?

34. A'i arglwydd a ddigiodd, ac a'i rhoddodd ef i'r poenwyr, hyd oni thalai yr hyn oll oedd ddyledus iddo.

35. Ac felly y gwna fy Nhad nefol i chwithau, oni faddeuwch o'ch calonnau bob un i'w frawd eu camweddau.

Mathew 18