Mathew 18:1-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ar yr awr honno y daeth y disgyblion at yr Iesu, gan ddywedyd, Pwy sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd?

2. A'r Iesu a alwodd ato fachgennyn, ac a'i gosododd yn eu canol hwynt;

3. Ac a ddywedodd, Yn wir y dywedaf i chwi, Oddieithr eich troi chwi, a'ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd.

4. Pwy bynnag gan hynny a'i gostyngo ei hunan fel y bachgennyn hwn, hwnnw yw'r mwyaf yn nheyrnas nefoedd.

5. A phwy bynnag a dderbynio gyfryw fachgennyn yn fy enw i, a'm derbyn i.

6. A phwy bynnag a rwystro un o'r rhai bychain hyn a gredant ynof fi, da fyddai iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a'i foddi yn eigion y môr.

7. Gwae'r byd oblegid rhwystrau! canys anghenraid yw dyfod rhwystrau; er hynny gwae'r dyn hwnnw drwy'r hwn y daw'r rhwystr!

8. Am hynny os dy law neu dy droed a'th rwystra, tor hwynt ymaith, a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff, neu yn anafus, nag a chennyt ddwy law, neu ddau droed, dy daflu i'r tân tragwyddol.

9. Ac os dy lygad a'th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti yn unllygeidiog fyned i mewn i'r bywyd, nag a dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern.

10. Edrychwch na ddirmygoch yr un o'r rhai bychain hyn: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, fod eu hangylion hwy yn y nefoedd bob amser yn gweled wyneb fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.

11. Canys daeth Mab y dyn i gadw'r hyn a gollasid.

12. Beth dybygwch chwi? O bydd gan ddyn gant o ddefaid, a myned o un ohonynt ar ddisberod; oni ad efe y namyn un cant, a myned i'r mynyddoedd, a cheisio'r hon a aeth ar ddisberod?

13. Ac os bydd iddo ei chael hi, yn wir meddaf i chwi, y mae yn llawenhau am honno mwy nag am y namyn un cant y rhai nid aethant ar ddisberod.

14. Felly nid yw ewyllys eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd, gyfrgolli'r un o'r rhai bychain hyn.

15. Ac os pecha dy frawd i'th erbyn, dos, ac argyhoedda ef rhyngot ti ac ef ei hun. Os efe a wrendy arnat, ti a enillaist dy frawd.

Mathew 18