5. Ac efe eto yn llefaru, wele, cwmwl golau a'u cysgododd hwynt: ac wele, lef o'r cwmwl, yn dywedyd, Hwn yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y'm bodlonwyd: gwrandewch arno ef.
6. A phan glybu'r disgyblion hynny: hwy a syrthiasant ar eu hwyneb, ac a ofnasant yn ddirfawr.
7. A daeth yr Iesu, ac a gyffyrddodd รข hwynt, ac a ddywedodd, Cyfodwch, ac nac ofnwch.
8. Ac wedi iddynt ddyrchafu eu llygaid, ni welsant neb ond yr Iesu yn unig.
9. Ac fel yr oeddynt yn disgyn o'r mynydd, gorchmynnodd yr Iesu iddynt, gan ddywedyd, Na ddywedwch y weledigaeth i neb, hyd oni atgyfodo Mab y dyn o feirw.