Mathew 16:24-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, Os myn neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned fi.

25. Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei fywyd, a'i cyll: a phwy bynnag a gollo ei fywyd o'm plegid i, a'i caiff.

26. Canys pa lesâd i ddyn, os ennill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun? neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid?

27. Canys Mab y dyn a ddaw yng ngogoniant ei Dad gyda'i angylion; ac yna y rhydd efe i bawb yn ôl ei weithred.

28. Yn wir y dywedaf wrthych, Y mae rhai o'r sawl sydd yn sefyll yma, a'r ni phrofant angau, hyd oni welont Fab y dyn yn dyfod yn ei frenhiniaeth.

Mathew 16