1. Ac wedi i'r Phariseaid a'r Sadwceaid ddyfod ato, a'i demtio, hwy a atolygasant iddo ddangos iddynt arwydd o'r nef.
2. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pan fyddo'r hwyr, y dywedwch, Tywydd teg; canys y mae'r wybr yn goch.
3. A'r bore, Heddiw drycin; canys y mae'r wybr yn goch ac yn bruddaidd. O ragrithwyr, chwi a fedrwch ddeall wyneb yr wybren; ac oni fedrwch arwyddion yr amserau?
4. Y mae cenhedlaeth ddrwg a godinebus yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd y proffwyd Jonas. Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith.
5. Ac wedi dyfod ei ddisgyblion ef i'r lan arall, hwy a ollyngasent dros gof gymryd bara ganddynt.
6. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Edrychwch ac ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a'r Sadwceaid.
7. A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Hyn sydd am na chymerasom fara gennym.
8. A'r Iesu yn gwybod, a ddywedodd wrthynt, Chwychwi o ychydig ffydd, paham yr ydych yn ymresymu yn eich plith eich hunain, am na chymerasoch fara gyda chwi?
9. Onid ydych chwi yn deall eto, nac yn cofio pum torth y pum mil, a pha sawl basgedaid a gymerasoch i fyny?
10. Na saith dorth y pedair mil, a pha sawl cawellaid a gymerasoch i fyny?
11. Pa fodd nad ydych yn deall, nad am fara y dywedais wrthych, ar ymogelyd rhag surdoes y Phariseaid a'r Sadwceaid?
12. Yna y deallasant na ddywedasai efe am ymogelyd rhag surdoes bara, ond rhag athrawiaeth y Phariseaid a'r Sadwceaid.
13. Ac wedi dyfod yr Iesu i dueddau Cesarea Philipi, efe a ofynnodd i'w ddisgyblion, gan ddywedyd, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i, Mab y dyn?