7. O ba herwydd efe a addawodd, trwy lw, roddi iddi beth bynnag a ofynnai.
8. A hithau, wedi ei rhagddysgu gan ei mam, a ddywedodd, Dyro i mi yma ben Ioan Fedyddiwr mewn dysgl.
9. A'r brenin a fu drist ganddo: eithr oherwydd y llw, a'r rhai a eisteddent gydag ef wrth y ford, efe a orchmynnodd ei roi ef iddi.
10. Ac efe a anfonodd, ac a dorrodd ben Ioan yn y carchar.
11. A ducpwyd ei ben ef mewn dysgl, ac a'i rhoddwyd i'r llances: a hi a'i dug ef i'w mam.
12. A'i ddisgyblion ef a ddaethant, ac a gymerasant ei gorff ef, ac a'i claddasant; ac a aethant, ac a fynegasant i'r Iesu.
13. A phan glybu'r Iesu, efe a ymadawodd oddi yno mewn llong i anghyfanheddle o'r neilltu: ac wedi clywed o'r torfeydd, hwy a'i canlynasant ef ar draed allan o'r dinasoedd.
14. A'r Iesu a aeth allan, ac a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt; ac efe a iachaodd eu cleifion hwynt.
15. Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth ei ddisgyblion ato, gan ddywedyd, Y lle sydd anghyfannedd, a'r awr a aeth weithian heibio: gollwng y dyrfa ymaith, fel yr elont i'r pentrefi, ac y prynont iddynt fwyd.
16. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid iddynt fyned ymaith: rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwyta.
17. A hwy a ddywedasant wrtho, Nid oes gennym ni yma ond pum torth, a dau bysgodyn.
18. Ac efe a ddywedodd, Dygwch hwynt yma i mi.
19. Ac wedi gorchymyn i'r torfeydd eistedd ar y gwelltglas, a chymryd y pum torth a'r ddau bysgodyn, efe a edrychodd i fyny tua'r nef, ac a fendithiodd, ac a dorrodd; ac a roddes y torthau i'r disgyblion, a'r disgyblion i'r torfeydd.
20. A hwynt oll a fwytasant, ac a gawsant eu digon: ac a godasant o'r briwfwyd oedd yng ngweddill, ddeuddeg basgedaid yn llawn.
21. A'r rhai a fwytasent oedd ynghylch pum mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.