Mathew 14:33-36 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

33. A daeth y rhai oedd yn y llong, ac a'i haddolasant ef, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw ydwyt ti.

34. Ac wedi iddynt fyned trosodd, hwy a ddaethant i dir Gennesaret.

35. A phan adnabu gwŷr y fan honno ef, hwy a anfonasant i'r holl wlad honno o amgylch, ac a ddygasant ato y rhai oll oedd mewn anhwyl;

36. Ac a atolygasant iddo gael cyffwrdd yn unig ag ymyl ei wisg ef: a chynifer ag a gyffyrddodd, a iachawyd.

Mathew 14