Mathew 14:3-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Canys Herod a ddaliasai Ioan, ac a'i rhwymasai, ac a'i dodasai yng ngharchar, oblegid Herodias, gwraig Phylip ei frawd ef.

4. Canys Ioan a ddywedodd wrtho, Nid cyfreithlon i ti ei chael hi.

5. Ac efe yn ewyllysio ei roddi ef i farwolaeth, a ofnodd y dyrfa; canys hwy a'i cymerent ef megis proffwyd.

6. Eithr pan gadwyd dydd genedigaeth Herod, y dawnsiodd merch Herodias ger eu bron hwy, ac a ryngodd fodd Herod.

7. O ba herwydd efe a addawodd, trwy lw, roddi iddi beth bynnag a ofynnai.

8. A hithau, wedi ei rhagddysgu gan ei mam, a ddywedodd, Dyro i mi yma ben Ioan Fedyddiwr mewn dysgl.

9. A'r brenin a fu drist ganddo: eithr oherwydd y llw, a'r rhai a eisteddent gydag ef wrth y ford, efe a orchmynnodd ei roi ef iddi.

10. Ac efe a anfonodd, ac a dorrodd ben Ioan yn y carchar.

11. A ducpwyd ei ben ef mewn dysgl, ac a'i rhoddwyd i'r llances: a hi a'i dug ef i'w mam.

12. A'i ddisgyblion ef a ddaethant, ac a gymerasant ei gorff ef, ac a'i claddasant; ac a aethant, ac a fynegasant i'r Iesu.

13. A phan glybu'r Iesu, efe a ymadawodd oddi yno mewn llong i anghyfanheddle o'r neilltu: ac wedi clywed o'r torfeydd, hwy a'i canlynasant ef ar draed allan o'r dinasoedd.

14. A'r Iesu a aeth allan, ac a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt; ac efe a iachaodd eu cleifion hwynt.

Mathew 14