Mathew 14:22-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Ac yn y fan y gyrrodd yr Iesu ei ddisgyblion i fyned i'r llong, ac i fyned i'r lan arall o'i flaen ef, tra fyddai efe yn gollwng y torfeydd ymaith.

23. Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith, efe a esgynnodd i'r mynydd wrtho ei hun, i weddïo: ac wedi ei hwyrhau hi, yr oedd efe yno yn unig.

24. A'r llong oedd weithian yng nghanol y môr, yn drallodus gan donnau: canys gwynt gwrthwynebus ydoedd.

25. Ac yn y bedwaredd wylfa o'r nos yr aeth yr Iesu atynt, gan rodio ar y môr.

26. A phan welodd y disgyblion ef yn rhodio ar y môr, dychrynasant, gan ddywedyd, Drychiolaeth ydyw. A hwy a waeddasant rhag ofn.

27. Ac yn y man y llefarodd yr Iesu wrthynt, gan ddywedyd, Cymerwch gysur: myfi ydyw; nac ofnwch.

28. A Phedr a'i hatebodd, ac a ddywedodd, O Arglwydd, os tydi yw, arch i mi ddyfod atat ar y dyfroedd.

29. Ac efe a ddywedodd, Tyred. Ac wedi i Pedr ddisgyn o'r llong, efe a rodiodd ar y dyfroedd, i ddyfod at yr Iesu.

30. Ond pan welodd ef y gwynt yn gryf, efe a ofnodd: a phan ddechreuodd suddo, efe a lefodd, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw fi.

31. Ac yn y man yr estynnodd yr Iesu ei law, ac a ymaflodd ynddo ef, ac a ddywedodd wrtho, Tydi o ychydig ffydd, paham y petrusaist?

32. A phan aethant hwy i mewn i'r llong, peidiodd y gwynt.

33. A daeth y rhai oedd yn y llong, ac a'i haddolasant ef, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw ydwyt ti.

34. Ac wedi iddynt fyned trosodd, hwy a ddaethant i dir Gennesaret.

35. A phan adnabu gwŷr y fan honno ef, hwy a anfonasant i'r holl wlad honno o amgylch, ac a ddygasant ato y rhai oll oedd mewn anhwyl;

Mathew 14