Mathew 13:17-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Oblegid yn wir y dywedaf i chwi, chwenychu o lawer o broffwydi a rhai cyfiawn weled y pethau a welwch chwi, ac nis gwelsant; a chlywed yr hyn a glywch chwi, ac nis clywsant.

18. Gwrandewch chwithau gan hynny ddameg yr heuwr.

19. Pan glywo neb air y deyrnas, ac heb ei ddeall, y mae'r drwg yn dyfod, ac yn cipio'r hyn a heuwyd yn ei galon ef. Dyma'r hwn a heuwyd ar fin y ffordd.

20. A'r hwn a heuwyd ar y creigleoedd, yw'r hwn sydd yn gwrando'r gair, ac yn ebrwydd trwy lawenydd yn ei dderbyn;

21. Ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei hun, eithr dros amser y mae: a phan ddelo gorthrymder neu erlid oblegid y gair, yn y fan efe a rwystrir.

22. A'r hwn a heuwyd ymhlith y drain, yw'r hwn sydd yn gwrando'r gair; ac y mae gofal y byd hwn, a thwyll cyfoeth, yn tagu'r gair, ac y mae yn myned yn ddiffrwyth.

23. Ond yr hwn a heuwyd yn y tir da, yw'r hwn sydd yn gwrando'r gair, ac yn ei ddeall; sef yr hwn sydd yn ffrwytho, ac yn dwyn peth ei ganfed, arall ei dri ugeinfed, arall ei ddegfed ar hugain.

24. Dameg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Teyrnas nefoedd sydd gyffelyb i ddyn a heuodd had da yn ei faes:

25. A thra oedd y dynion yn cysgu, daeth ei elyn ef, ac a heuodd efrau ymhlith y gwenith, ac a aeth ymaith.

26. Ac wedi i'r eginyn dyfu, a dwyn ffrwyth, yna yr ymddangosodd yr efrau hefyd.

27. A gweision gŵr y tŷ a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Arglwydd, oni heuaist ti had da yn dy faes? o ba le gan hynny y mae'r efrau ynddo?

28. Yntau a ddywedodd wrthynt, Y gelyn ddyn a wnaeth hyn. A'r gweision a ddywedasant wrtho, A fynni di gan hynny i ni fyned a'u casglu hwynt?

29. Ac efe a ddywedodd, Na fynnaf; rhag i chwi, wrth gasglu'r efrau, ddiwreiddio'r gwenith gyda hwynt.

30. Gadewch i'r ddau gyd‐dyfu hyd y cynhaeaf: ac yn amser y cynhaeaf y dywedaf wrth y medelwyr, Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn ysgubau i'w llwyr losgi; ond cesglwch y gwenith i'm hysgubor.

31. Dameg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymerodd dyn ac a'i heuodd yn ei faes:

Mathew 13