46. Tra ydoedd efe yn llefaru wrth y torfeydd, wele, ei fam a'i frodyr oedd yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan ag ef.
47. A dywedodd un wrtho, Wele, y mae dy fam di a'th frodyr yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan รข thi.
48. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrth yr hwn a ddywedasai wrtho, Pwy yw fy mam i? a phwy yw fy mrodyr i?
49. Ac efe a estynnodd ei law tuag at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd, Wele fy mam i, a'm brodyr i:
50. Canys pwy bynnag a wna ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd, efe yw fy mrawd i, a'm chwaer, a'm mam.