39. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Cenhedlaeth ddrwg a godinebus sydd yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd y proffwyd Jonas:
40. Canys fel y bu Jonas dridiau a thair nos ym mol y morfil, felly y bydd Mab y dyn dridiau a thair nos yng nghalon y ddaear.
41. Gwŷr Ninefe a gyfodant yn y farn gyda'r genhedlaeth hon, ac a'i condemniant hi; am iddynt hwy edifarhau wrth bregeth Jonas: ac wele fwy na Jonas yma.
42. Brenhines y deau a gyfyd yn y farn gyda'r genhedlaeth hon, ac a'i condemnia hi; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon: ac wele fwy na Solomon yma.
43. A phan êl yr ysbryd aflan allan o ddyn, efe a rodia ar hyd lleoedd sychion, gan geisio gorffwystra, ac nid yw yn ei gael.
44. Yna medd efe, Mi a ddychwelaf i'm tŷ o'r lle y deuthum allan. Ac wedi y delo, y mae yn ei gael yn wag, wedi ei ysgubo a'i drwsio.
45. Yna y mae efe yn myned, ac yn cymryd gydag ef ei hun saith ysbryd eraill gwaeth nag ef ei hun; ac wedi iddynt fyned i mewn, hwy a gyfanheddant yno: ac y mae diwedd y dyn hwnnw yn waeth na'i ddechreuad. Felly y bydd hefyd i'r genhedlaeth ddrwg hon.
46. Tra ydoedd efe yn llefaru wrth y torfeydd, wele, ei fam a'i frodyr oedd yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan ag ef.