Mathew 12:34-41 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

34. O epil gwiberod, pa wedd y gellwch lefaru pethau da, a chwi yn ddrwg? canys o helaethrwydd y galon y llefara'r genau.

35. Y dyn da, o drysor da'r galon, a ddwg allan bethau da: a'r dyn drwg, o'r trysor drwg, a ddwg allan bethau drwg.

36. Eithr yr ydwyf yn dywedyd wrthych, Mai am bob gair segur a ddywedo dynion, y rhoddant hwy gyfrif yn nydd y farn.

37. Canys wrth dy eiriau y'th gyfiawnheir, ac wrth dy eiriau y'th gondemnir.

38. Yna yr atebodd rhai o'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid, gan ddywedyd, Athro, ni a chwenychem weled arwydd gennyt.

39. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Cenhedlaeth ddrwg a godinebus sydd yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd y proffwyd Jonas:

40. Canys fel y bu Jonas dridiau a thair nos ym mol y morfil, felly y bydd Mab y dyn dridiau a thair nos yng nghalon y ddaear.

41. Gwŷr Ninefe a gyfodant yn y farn gyda'r genhedlaeth hon, ac a'i condemniant hi; am iddynt hwy edifarhau wrth bregeth Jonas: ac wele fwy na Jonas yma.

Mathew 12