Mathew 12:16-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Ac a orchmynnodd iddynt, na wnaent ef yn gyhoedd:

17. Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd,

18. Wele fy ngwasanaethwr, yr hwn a ddewisais; fy anwylyd, yn yr hwn y mae fy enaid yn fodlon: gosodaf fy ysbryd arno, ac efe a draetha farn i'r Cenhedloedd.

19. Nid ymryson efe, ac ni lefain, ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd.

20. Corsen ysig nis tyr, a llin yn mygu nis diffydd, hyd oni ddygo efe allan farn i fuddugoliaeth.

Mathew 12