Mathew 11:16-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Eithr i ba beth y cyffelybaf fi'r genhedlaeth hon? Cyffelyb yw i blant yn eistedd yn y marchnadoedd, ac yn llefain wrth eu cyfeillion,

17. Ac yn dywedyd, Canasom bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch; canasom alarnad i chwi, ac ni chwynfanasoch.

18. Canys daeth Ioan heb na bwyta nac yfed; ac meddant, Y mae cythraul ganddo.

Mathew 11