Mathew 11:1-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A bu, pan orffennodd yr Iesu orchymyn i'w ddeuddeg disgybl, efe a aeth oddi yno i ddysgu ac i bregethu yn eu dinasoedd hwy.

2. A Ioan, pan glybu yn y carchar weithredoedd Crist, wedi danfon dau o'i ddisgyblion,

3. A ddywedodd wrtho, Ai tydi yw'r hwn sydd yn dyfod, ai un arall yr ydym yn ei ddisgwyl?

4. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, a mynegwch i Ioan y pethau a glywch ac a welwch.

5. Y mae'r deillion yn gweled eilwaith, a'r cloffion yn rhodio, a'r cleifion gwahanol wedi eu glanhau, a'r byddariaid yn clywed; y mae'r meirw yn cyfodi, a'r tlodion yn cael pregethu yr efengyl iddynt.

6. A dedwydd yw'r hwn ni rwystrir ynof fi.

7. Ac a hwy yn myned ymaith, yr Iesu a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i'r anialwch i edrych amdano? ai corsen yn ysgwyd gan wynt?

8. Eithr pa beth yr aethoch allan i'w weled? ai dyn wedi ei wisgo รข dillad esmwyth? wele, y rhai sydd yn gwisgo dillad esmwyth, mewn tai brenhinoedd y maent.

9. Eithr pa beth yr aethoch allan i'w weled? ai proffwyd? ie, meddaf i chwi, a mwy na phroffwyd:

10. Canys hwn ydyw efe am yr hwn yr ysgrifennwyd, Wele, yr ydwyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a baratoa dy ffordd o'th flaen.

11. Yn wir meddaf i chwi, Ymhlith plant gwragedd, ni chododd neb mwy nag Ioan Fedyddiwr: er hynny yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas nefoedd, sydd fwy nag ef.

12. Ac o ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr, yr ydys yn treisio teyrnas nefoedd, a threiswyr sydd yn ei chipio hi.

13. Canys yr holl broffwydi a'r gyfraith a broffwydasant hyd Ioan.

14. Ac os ewyllysiwch ei dderbyn, efe yw Eleias, yr hwn oedd ar ddyfod.

Mathew 11