Mathew 10:23-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. A phan y'ch erlidiant yn y ddinas hon, ffowch i un arall: canys yn wir y dywedaf wrthych, Na orffennwch ddinasoedd Israel, nes dyfod Mab y dyn.

24. Nid yw'r disgybl yn uwch na'i athro, na'r gwas yn uwch na'i arglwydd.

25. Digon i'r disgybl fod fel ei athro, a'r gwas fel ei arglwydd. Os galwasant berchen y tŷ yn Beelsebub, pa faint mwy ei dylwyth ef?

26. Am hynny nac ofnwch hwynt: oblegid nid oes dim cuddiedig, a'r nas datguddir; na dirgel, a'r nas gwybyddir.

Mathew 10