Mathew 10:22-36 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. A chas fyddwch gan bawb er mwyn fy enw i: ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, efe fydd cadwedig.

23. A phan y'ch erlidiant yn y ddinas hon, ffowch i un arall: canys yn wir y dywedaf wrthych, Na orffennwch ddinasoedd Israel, nes dyfod Mab y dyn.

24. Nid yw'r disgybl yn uwch na'i athro, na'r gwas yn uwch na'i arglwydd.

25. Digon i'r disgybl fod fel ei athro, a'r gwas fel ei arglwydd. Os galwasant berchen y tŷ yn Beelsebub, pa faint mwy ei dylwyth ef?

26. Am hynny nac ofnwch hwynt: oblegid nid oes dim cuddiedig, a'r nas datguddir; na dirgel, a'r nas gwybyddir.

27. Yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthych chwi yn y tywyllwch, dywedwch yn y goleuni: a'r hyn a glywch yn y glust, pregethwch ar bennau'r tai.

28. Ac nac ofnwch rhag y rhai a laddant y corff, ac ni allant ladd yr enaid; eithr yn hytrach ofnwch yr hwn a ddichon ddistrywio enaid a chorff yn uffern.

29. Oni werthir dau aderyn y to er ffyrling? ac ni syrth un ohonynt ar y ddaear heb eich Tad chwi.

30. Ac y mae, ie, holl wallt eich pen wedi eu cyfrif.

31. Nac ofnwch gan hynny: chwi a delwch fwy na llawer o adar y to.

32. Pwy bynnag gan hynny a'm cyffeso i yng ngŵydd dynion, minnau a'i cyffesaf yntau yng ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd:

33. A phwy bynnag a'm gwado i yng ngŵydd dynion, minnau a'i gwadaf yntau yng ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.

34. Na thybygwch fy nyfod i ddanfon tangnefedd ar y ddaear: ni ddeuthum i ddanfon tangnefedd, ond cleddyf.

35. Canys mi a ddeuthum i osod dyn i ymrafaelio yn erbyn ei dad, a'r ferch yn erbyn ei mam, a'r waudd yn erbyn ei chwegr.

36. A gelynion dyn fydd tylwyth ei dŷ ei hun.

Mathew 10