Mathew 10:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac wedi galw ei ddeuddeg disgybl ato, efe a roddes iddynt awdurdod yn erbyn ysbrydion aflan, i'w bwrw hwynt allan, ac i iacháu pob clefyd a phob afiechyd.

2. Ac enwau'r deuddeg apostolion yw'r rhai hyn: Y cyntaf, Simon, yr hwn a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd; Iago mab Sebedeus, ac Ioan ei frawd;

3. Philip, a Bartholomeus; Thomas, a Mathew y publican; Iago mab Alffeus, a Lebeus, yr hwn a gyfenwid Thadeus;

Mathew 10