Mathew 1:16-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. A Jacob a genhedlodd Joseff, gŵr Mair, o'r hon y ganed Iesu, yr hwn a elwir Crist.

17. Felly yr holl genedlaethau o Abraham hyd Dafydd, sydd bedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o Dafydd hyd y symudiad i Fabilon, pedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o'r symudiad i Fabilon hyd Grist, pedair cenhedlaeth ar ddeg.

18. A genedigaeth yr Iesu Grist oedd fel hyn: Wedi dyweddïo Mair ei fam ef â Joseff, cyn eu dyfod hwy ynghyd, hi a gafwyd yn feichiog o'r Ysbryd Glân.

19. A Joseff ei gŵr hi, gan ei fod yn gyfiawn, ac heb chwennych ei gwneuthur hi yn siampl, a ewyllysiodd ei rhoi hi ymaith yn ddirgel.

20. Ac efe yn meddwl y pethau hyn, wele, angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Joseff, mab Dafydd, nac ofna gymryd Mair dy wraig: oblegid yr hyn a genhedlwyd ynddi sydd o'r Ysbryd Glân.

Mathew 1