9. A phan oeddynt yn dyfod i waered o'r mynydd, efe a orchmynnodd iddynt na ddangosent i neb y pethau a welsent, hyd pan atgyfodai Mab y dyn o feirw.
10. A hwy a gadwasant y gair gyda hwynt eu hunain, gan gydymholi beth yw'r atgyfodi o feirw.
11. A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Paham y dywed yr ysgrifenyddion fod yn rhaid i Eleias ddyfod yn gyntaf?
12. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Eleias yn ddiau gan ddyfod yn gyntaf a adfer bob peth; a'r modd yr ysgrifennwyd am Fab y dyn, y dioddefai lawer o bethau, ac y dirmygid ef.
13. Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, ddyfod Eleias yn ddiau, a gwneuthur ohonynt iddo yr hyn a fynasant, fel yr ysgrifennwyd amdano.
14. A phan ddaeth efe at ei ddisgyblion, efe a welodd dyrfa fawr yn eu cylch hwynt, a'r ysgrifenyddion yn cydymholi รข hwynt.
15. Ac yn ebrwydd yr holl dyrfa, pan ganfuant ef, a ddychrynasant, a chan redeg ato, a gyfarchasant iddo.
16. Ac efe a ofynnodd i'r ysgrifenyddion, Pa gydymholi yr ydych yn eich plith?
17. Ac un o'r dyrfa a atebodd ac a ddywedodd, Athro, mi a ddygais fy mab atat, ag ysbryd mud ynddo: