Marc 9:44-50 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

44. Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd.

45. Ac os dy droed a'th rwystra, tor ef ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff, nag â dau droed gennyt dy daflu i uffern, i'r tân anniffoddadwy:

46. Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd.

47. Ac os dy lygad a'th rwystra, bwrw ef ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i deyrnas Dduw yn unllygeidiog, nag â dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern:

48. Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd.

49. Canys pob un a helltir â thân, a phob aberth a helltir â halen.

50. Da yw'r halen: ond os bydd yr halen yn ddi‐hallt, â pha beth yr helltwch ef? Bid gennych halen ynoch eich hunain, a byddwch heddychlon â'ch gilydd.

Marc 9