Marc 9:42-49 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

42. A phwy bynnag a rwystro un o'r rhai bychain hyn sydd yn credu ynof fi, gwell oedd iddo osod maen melin o amgylch ei wddf, a'i daflu i'r môr.

43. Ac os dy law a'th rwystra, tor hi ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn anafus, nag â dwy law gennyt fyned i uffern, i'r tân anniffoddadwy:

44. Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd.

45. Ac os dy droed a'th rwystra, tor ef ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff, nag â dau droed gennyt dy daflu i uffern, i'r tân anniffoddadwy:

46. Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd.

47. Ac os dy lygad a'th rwystra, bwrw ef ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i deyrnas Dduw yn unllygeidiog, nag â dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern:

48. Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd.

49. Canys pob un a helltir â thân, a phob aberth a helltir â halen.

Marc 9