Marc 8:23-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Ac wedi ymaflyd yn llaw y dall, efe a'i tywysodd ef allan o'r dref: ac wedi iddo boeri ar ei lygaid ef, a dodi ei ddwylo arno, efe a ofynnodd iddo, a oedd efe yn gweled dim.

24. Ac wedi edrych i fyny, efe a ddywedodd, Yr ydwyf yn gweled dynion megis prennau yn rhodio.

25. Wedi hynny y gosododd efe ei ddwylo drachefn ar ei lygaid ef, ac a barodd iddo edrych i fyny: ac efe a gafodd ei olwg, ac efe a welai bawb o bell, ac yn eglur.

26. Ac efe a'i hanfonodd ef adref, i'w dŷ, gan ddywedyd, Na ddos i'r dref, ac na ddywed i neb yn y dref.

27. A'r Iesu a aeth allan, efe a'i ddisgyblion, i drefi Cesarea Philipi: ac ar y ffordd efe a ofynnodd i'w ddisgyblion, gan ddywedyd wrthynt, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i?

28. A hwy a atebasant, Ioan Fedyddiwr; a rhai, Eleias; ac eraill, Un o'r proffwydi.

29. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Ti yw'r Crist.

Marc 8