14. A'r disgyblion a adawsant yn angof gymryd bara, ac nid oedd ganddynt gyda hwynt ond un dorth yn y llong.
15. Yna y gorchmynnodd efe iddynt, gan ddywedyd, Gwyliwch, ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid, a surdoes Herod.
16. Ac ymresymu a wnaethant y naill wrth y llall, gan ddywedyd, Hyn sydd oblegid nad oes gennym fara.
17. A phan wybu'r Iesu, efe a ddywedodd wrthynt, Pa ymresymu yr ydych, am nad oes gennych fara? onid ydych chwi eto yn ystyried, nac yn deall? ydyw eich calon eto gennych wedi caledu?
18. A chennych lygaid, oni welwch? a chennych glustiau, oni chlywch? ac onid ydych yn cofio?
19. Pan dorrais y pum torth hynny ymysg y pum mil, pa sawl basgedaid yn llawn o friwfwyd a godasoch i fyny? Dywedasant wrtho, Deuddeg.
20. A phan dorrais y saith ymhlith y pedair mil, llonaid pa sawl basged o friwfwyd a godasoch i fyny? A hwy a ddywedasant, Saith.
21. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa fodd nad ydych yn deall?
22. Ac efe a ddaeth i Fethsaida; a hwy a ddygasant ato un dall, ac a ddeisyfasant arno ar iddo gyffwrdd ag ef,
23. Ac wedi ymaflyd yn llaw y dall, efe a'i tywysodd ef allan o'r dref: ac wedi iddo boeri ar ei lygaid ef, a dodi ei ddwylo arno, efe a ofynnodd iddo, a oedd efe yn gweled dim.