1. Yn y dyddiau hynny, pan oedd y dyrfa yn fawr iawn, ac heb ganddynt ddim i'w fwyta, y galwodd yr Iesu ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd wrthynt,
2. Yr wyf fi yn tosturio wrth y dyrfa, oblegid y maent hwy dridiau weithian yn aros gyda mi, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwyta:
3. Ac os gollyngaf hwynt ymaith ar eu cythlwng i'w teiau eu hunain, hwy a lewygant ar y ffordd: canys rhai ohonynt a ddaeth o bell.
4. A'i ddisgyblion ef a'i hatebasant, O ba le y gall neb ddigoni'r rhai hyn รข bara yma yn yr anialwch?
5. Ac efe a ofynnodd iddynt, Pa sawl torth sydd gennych? A hwy a ddywedasant, Saith.